Merched Cymru'n ennill
- Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi ennill yn erbyn Belarws o 1-0.
Hon oedd ei gem gyntaf wrth iddynt ddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2015 ac roeddent yn chwarae adref yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Helen Ward oedd y chwaraewr wnaeth sgorio a hynny yn ystod gem pan yr oedd hi yn cael ei 50fed cap.
Mae wedi sgorio 29 o weithiau o'r blaen i'w gwlad.
Wrth baratoi am y gêm fe wnaeth Merched Cymru guro Estonia mewn gêm gyfeillgar yn Haapsalu yn gynharach ym mis Medi. Ond roeddent heb ymosodwr Everton Gwenan Harries nos Iau oherwydd anaf.
Er hynny fe greodd Cymru sawl cyfle ond llwyddodd gol geidwad Belarws Inna Botyanovskaya i achub bob pêl tan funudau olaf y gêm.
Hyderus
Gyda naw munud tan y chwiban olaf fund fe sgoriodd Helen Ward.
Cyn y gêm dywedodd chwaraewr canol cae Cymru Michelle Green: "Mae teimlad positif ymysg y chwaraewyr wrth edrych ar y grŵp sydd gennym, ac rydym yn ffyddiog nad oes tîm yn y grŵp na allwn ni eu curo."
Lloegr fydd y tim nesaf fydd yn wynebu Cymru a hynny Hydref 26.
Y timau eraill yn y grŵp yw Montenegro, Twrci ac Iwcrain.
Bydd enillwyr y saith grŵp rhagbrofol yn cymhwyso yn syth ar gyfer Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada, ac fe fydd y pedwar tîm sy'n ail yn eu grŵp ac sydd â'r record orau yn erbyn gweddill y grŵp yn mynd i gyfres o gemau ail gyfle yn ystod Hydref a Thachwedd 2014 am yr un lle arall sydd ar gael.