Arian clwb cynilo Nadolig ar goll

  • Cyhoeddwyd
Joanne McLean
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Joanne McLean bod poeni am golli'r arian wedi effeithio ar ei hiechyd

Mae aelodau o glwb cynilo Nadolig wedi dechrau ymgyrch ar-lein am gyfraniadau, ar ôl i'w harian ddiflannu.

Mae nifer o deuluoedd o Dreharris ger Merthyr Tudful oedd yn meddwl eu bod yn arbed arian gyda chwmni Park wedi colli rhwng £300 a £800 yr un.

Cafodd dynes 36 oed ei harestio fel rhan o'r ymchwiliadau i honiadau o ddwyn.

Dywedodd Park Group eu bod yn cyd-weithio gyda'r heddlu.

Roedd y teuluoedd yn credu eu bod yn gwneud taliadau wythnosol i asiant cwmni Park ers mis Ionawr.

Roedden nhw'n disgwyl cael eu harian yn ôl ym mis Tachwedd mewn talebau i'w gwario ar anrhegion Nadolig.

Ond ysgrifennodd Park atynt i ddweud ei bod hi'n ymddangos bod eu hasiant ar ei hôl hi gyda'u taliadau, ac awgrymu y byddai'n syniad iddyn nhw gysylltu â'r heddlu.

Dywedodd Clare Courtney y gall hi golli dros £700.

"Mae Nadolig fy mhlant wedi ei ddifetha," meddai.

Mae Joanne McLean yn dweud bod poeni am golli'r £870.50 rhoddodd i mewn i'r cynllun wedi effeithio ar ei hiechyd.

"Rydw i wedi bod yn sâl iawn. Mae gen i gornwydydd (boils) ar fy nghefn. Mae gen i friwiau. Roedd rhaid i mi fynd yn ôl ac ymlaen i'r meddyg," meddai.

Dywedodd llefarydd o Park Group: "Mae Park wedi cael gwybod am y sefyllfa ac wedi argymell bod cwsmeriaid yn cysylltu â'r heddlu, sydd nawr yn cynnal ymchwiliad i'r mater. Wrth gwrs mae Park yn cyd-weithio yn llawn gyda'r ymchwiliad."