Leanne Wood yn galw am sefydlu Post Cymru

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Leanne Wood ei bod yn poeni all breifateiddio'r Post Brenhinol effeithio ar gymunedau gwledig

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am y Post Brenhinol yng Nghymru, tra bod Llywodraeth y DU yn cynllunio preifateiddio'r gwasanaeth.

Mae Ms Wood eisiau cefnogaeth drawsbleidiol yng Nghymru, ac mae hi wedi ysgrifennu at ysgrifennydd busnes Llywodraeth y DU, Vince Cable.

Dywedodd yr Adran dros Fusnes na fyddai'r polisi ar wasanaethau post yn y DU yn newid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei wrthwynebiad i breifateiddio'r Post Brenhinol, yn enwedig os bydd yn effeithio ar swyddi.

'Gwrthwynebiad'

Yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Leanne Wood bod yna lawer o wrthwynebiad i breifateiddio'r Post Brenhinol, yn enwedig yng Nghymru lle mae llawer o gymunedau gwledig.

"Rydym ni wedi gweld mewn achosion eraill o breifateiddio bod y darn sy'n gwneud y mwyaf o elw yn cael ei gadw, ac mae 'na beryg bod ardaloedd gwledig, lle mae hi'n anoddach neu'n ddrutach i ddosbarthu post, yn cael gwasanaeth llai."

Dywedodd Ms Wood bod pobl a busnesau yn poeni am gynnydd costau i ddanfon llythyrau a pharseli, ac mewn cyfnod economaidd heriol y gall hyn fod yn ergyd fawr.

"Mae Plaid Cymru wedi galw am ffordd ymlaen i Gymru, yn lle gwrthwynebu preifateiddio yn unig, rydym ni eisiau cynnig ein cynllun positif ni."

Post Cymru

Hoffai Ms Wood weld Llywodraeth y DU yn dilyn cynsail 1969, pan gafodd cyfrifoldeb am wasanaethau post Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel eu rhoi i'r ynysoedd.

"Mae'r drefn yna wedi bod yn llwyddiannus iawn, a dyma'r math o beth hoffwn ni ei weld yng Nghymru, creu Post Cymru, ein gwasanaeth ein hunain.

"Byddai hynny yn ein galluogi ni i gadw gwasanaeth lle all bawb ddisgwyl lefel sylfaenol o wasanaeth, sicrhau ein bod yn cadw'r gwasanaeth chwe diwrnod yr wythnos a chadw prisiau ar lefelau rhesymol i unigolion a busnesau."

Gwadodd Ms Wood nad ei lle hi oedd awgrymu cynllun fel yma, ac mai Llywodraeth Cymru ddylai wneud.

"Yn lle cwyno ei fod o'n ofnadwy, rydym yn barod i gynnig syniad gwahanol, positif."

Dim newid

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Leanne Wood am weld cyfrifoldeb am y post yn cael ei roi i Gymru, fel yn Ynys Manaw

Dywedodd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau na fyddai eu polisi ar wasanaethau post yn newid.

"Mae Cymru yn elwa o'r gwasanaeth chwe diwrnod yr wythnos sy'n mynd heibio gofynion yr Undeb Ewropeaidd ac sy'n un o gonglfeini economi'r DU," meddai llefarydd.

"Bydd ein diwygiad o'r sector post - yn cynnwys gwerthu cyfranddaliadau bydd yn rhoi mynediad i arian preifat i'r Post Brenhinol - yn sicrhau bod gan y Post Brenhinol ddyfodol cynaliadwy a bod y gwasanaeth i bawb yn cael ei gynnal."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim yn cefnogi preifateiddio'r Post Brenhinol, a byddwn yn poeni os caiff cymunedau yng Nghymru eu heffeithio gan ddymuniad y perchnogion i wneud elw, yn enwedig os caiff swyddi eu peryglu.

"Byddwn yn parhau i gysylltu gyda'r Post Brenhinol i ddatgan ein pryderon."