Cynyddu dedfryd am ymosodiad ar ddawnsiwr

  • Cyhoeddwyd
Mohammed Ali MohamoedFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Mohammed Ali Mohamoed ei ddedfrydu i 13 mlynedd yn y carchar ym mis Mehefin

Mae dedfryd dyn gafodd ei garcharu am ymosod ar ddawnsiwr yng Nghaerdydd yn 2011 wedi ei hymestyn.

Cafwyd Mohammed Ali Mohamoed yn euog o achosi niwed corfforol difrifol i Jack Widdowson, a chafodd ei garcharu am 13 mlynedd ym mis Mehefin.

Ond cafodd ei ddedfryd ei gynyddu i 18 mlynedd, wedi apêl ddydd Gwener.

Torrwyd gwddf Jack Widdowson o Wlad yr Haf pan ymosododd Mohamoed o'r Sblot, Caerdydd, arno yn y brifddinas yn Nhachwedd 2011.

Cafodd Mr Widdowson ei adael yn gorwedd ar y llawr gydag anafiadau difrifol.

Mae'r Twrne Cyffredinol, Dominic Grieve QC wedi croesawu'r cynnydd yn y ddedfryd:

"Gall yr ymosodiad ofnadwy yma, ar ddawnsiwr ifanc, addawol, fod wedi diweddu ei yrfa."

Dywedodd bod Mohamoed wedi bod yn "greulon" a'i fod yn falch bod y ddedfryd wedi ei chynyddu.