Donaldson mewn safle da
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Jamie Donaldson mewn safle da ar ddiwedd ail rownd Pencampwriaeth Alfred Dunhill yn Yr Alban.
Mae'r chwaraewr o Bontypridd dair ergyd o'r brig yn dilyn rownd o 67 ddydd Gwener i ychwanegu at ei rownd o 65 ddydd Iau.
Ym Mhencampwriaeth unigryw Alfred Dunhill, mae'r golffwyr yn cystadlu ar dri chwrs gwahanol dros y tridiau cyntaf, sef St. Andrews, Carnoustie a Kingsbarns.
Donaldson gafodd y sgôr gorau yn Carnoustie ddydd Iau, ac fe ddilynodd hynny gyda rownd dda yn Kingsbarns gan ei adael ar gyfanswm o 132 dros y ddwy rownd, ac yn gydradd nawfed.
Tom Lewis o Loegr sydd ar y brig wedi dwy rownd o 64 a 65.
Mae dau Gymro arall yn y gystadleuaeth.
Cafodd Rhys Davies rownd ddwy ergyd yn well na'r safon yn Kingsbarns ddydd Iau ac yna un yn well na'r safon yn St. Andrews ddydd Gwener i'w adael ar gyfanswm o 141, ond mae Phillip Price un ergyd dros y safon wedi ei ddwy rownd yntau.
Bydd Donaldson yn chwarae yn St.Andrews ddydd Sadwrn a Davies yn Carnoustie wrth i'r ddau geisio cymhwyso ar gyfer y rownd olaf ddydd Sul.