Newid rheolau'n 'peryglu bywydau'

  • Cyhoeddwyd
CPRFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Gall dysgu techneg CPR (adfywio'r galon ac anadlu) yn anghywir beryglu bywydau, medd Gwyn Jones

Gallai newid rheolau'n ymwneud â hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gweithle olygu fod bywydau mewn perygl - dyna farn un sy'n gyfrifol am hyfforddiant ar hyn o bryd.

O Hydref 1, ni fydd aseswyr o'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yn bresennol ar ddiwedd bob cwrs i asesu'r bobl sy'n derbyn hyfforddiant.

Yn ôl Gwyn Jones o gwmni Medi-Tec ym Mangor, mae hynny'n gamgymeriad ac yn rhywbeth sy'n cael ei wneud i arbed arian yn unig.

Mae Medi-Tec yn gyfrifol am hyfforddi cannoedd o gleientiaid ar draws Cymru o awdurdodau lleol, prifysgolion ac Urdd Gobaith Cymru, ac mae bob un o hyfforddwyr y cwmni yn gymwys i ddarparu hyfforddiant o'r fath.

Mae iechyd a diogelwch yn y gweithle yn rhan o gyfrifoldeb Adran Gwaith a Phensiynau llywodraeth San Steffan ac fe fydd y newid yn digwydd ar draws y DU.

Ar ddiwedd cwrs tri diwrnod, mae dau o staff yr HSE yn bresennol i asesu'r hyfforddiant a chymeradwyo'r cymhwyster a gynigir. Ni fydd hynny'n digwydd o ddydd Mawrth ymlaen.

'Cyrraedd y safon'

Dywedodd Gwyn Jones: "Mae'r newid yma yn hurt... dim ond ffordd i'r llywodraeth safio pres ydi hwn faswn i'n meddwl.

"O Hydref 1 gall rhywun advertisio eu bod nhw'n cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf, ac efallai gwneud cyrsiau sy'n rhoi'r wybodaeth anghywir i bobl.

"Yn bendant mae bywydau mewn perygl tase rhywun yn rhoi'r cyngor anghywir am sut i wneud CPR (techneg adfywio'r galon a'r ysgyfaint) neu ddefnyddio'r defibrillator.

"Ar ddiwedd cwrs tri diwrnod mae'r HSE wedi bod yn gyrru dau assessor i mewn i wneud yn siŵr fod y cwrs i fyny i'r safon - fydd dim rhaid i ni wneud hynny o Hydref ymlaen, sy'n anghywir dwi'n meddwl.

"Fydd o fymryn yn haws i ni oherwydd fydd dim rhaid i ni dalu am aseswyr, ond 'da ni'n licio eu cael nhw i mewn er mwyn cadarnhau bod y myfyrwyr wedi cyrraedd y safon angenrheidiol."

'Cyfrifoldeb ar gyflogwyr'

O dan y drefn newydd fe fydd cyflogwyr yn dal yn gyfrifol am iechyd a diogelwch eu gweithwyr. Y gwahaniaeth mwyaf yw na fydd staff yr HSE yn asesu lefel hyfforddiant cyrsiau cymorth cyntaf, nac yn cymeradwyo'r cyrsiau.

Roedd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn gwrthod y feirniadaeth, a dywedodd llefarydd ar eu rhan:

"Ni fydd diddymu'r angen i'r HSE i gymeradwyo hyfforddiant cymorth cyntaf a chymwysterau yn gostwng safonau gwarchodaeth i weithwyr.

"Mae'r cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyflogwyr i sicrhau eu bod yn gwneud trefniadau digonol am gymorth cyntaf yn parhau.

"Rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd am yr hyn y mae'r ddeddf yn galw amdano, ac mae hynny'n darparu cymorth ymarferol i gyflogwyr wrth asesu a deall eu hanghenion cymorth cyntaf a phryd y mae angen person cymorth cyntaf ynghyd a dewis darparwr hyfforddiant sy'n fwyaf addas i'w hanghenion.

"Bydd cyflogwyr yn dal i orfod darparu offer ac adnoddau i sicrhau bod cymorth cyntaf ar gael i'w gweithwyr os ydyn nhw'n cael eu hanafu neu fynd yn sâl yn y gweithle.

"Ond fe fydd gan fusnesau fwy o hyblygrwydd wrth benderfynu sut y maen nhw'n cyflawni'r ddarpariaeth cymorth cyntaf priodol i'w gweithle."

Am nad yw iechyd a diogelwch yn y gweithle yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, doedden ddim am wneud sylw ar y mater.

Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb gan yr adran o lywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb am hyn - sef yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol