Cyfuno perlysiau a chemotherapi: gobaith newydd?

  • Cyhoeddwyd
Claf yn derbyn triniaeth canser
Disgrifiad o’r llun,
Dywed yr arbenigwyr y gallai cyfuno therapi fel cemotherapi a meddyginiaeth Tsieineaidd fod yn fuddiol i gleifion

Fe allai cyfuniad o feddyginiaeth arferol a Tsieineaidd gynnig gobaith ar gyfer triniaethau newydd er mwyn delio â mathau gwahanol o ganser.

Dyna ddywed arbenigwyr o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Peking yn China.

Mae tîm ohonynt wedi bod yn cydweithio er mwyn mesur pa mor effeithiol yw meddyginiaeth Tsieineaidd i gleifion, a chyfuno hyn gyda dulliau eraill sydd yn cael eu defnyddio yn y gorllewin i drin claf megis cemotherapi.

Cafodd y gwaith ei noddi gan Canser Research Wales a'r Albert Hung foundation.

Hen feddyginiaeth

Perlysiau neu gynnyrch naturiol yw nifer o'r meddyginiaethau Tsieineaidd sydd yn cael eu cynnig i gleifion.

Maent wedi bod yn cael eu defnyddio mewn gwledydd yn Asia megis China, Japan a Korea ers canrifoedd meddai'r Athro Wen Jiang o ysgol feddygaeth Caerdydd.

Ond tra bod rhai o'r rhain yn gweithio, does yna ddim tystiolaeth wyddonol i fedru esbonio sut maent yn gweithio.

Mae un fformiwla sef Yangzheng Xiaoji yn cael ei ddefnyddio i drin cleifion gyda chanser a phobl yn dweud eu bod wedi eu helpu.

Treialon newydd

Ers y llynedd mae'r tîm o arbenigwyr wedi bod yn ceisio darganfod sut yr oedd yn gweithio er mwyn medru deall pam ei fod yn effeithiol. Eu casgliad oedd ei fod yn medru atal celloedd canser rhag lledaenu yn y corff.

Dywed yr Athro Wen Jiang sydd wedi bod yn arwain yr ymchwil: "Mae'r fformiwla wedi bod yn fuddiol i rai cleifion gyda mathau o diwmor pan y defnyddir ef ar ben ei hun a gyda therapi confensiynol megis cemotherapi.

"Yr awgrym yw y gallai cyfuno'r fformiwla gyda therapi confensiynol a rhai newydd fod yr ateb ar gyfer datblygu triniaethau newydd ar gyfer cleifion canser."

"Rydyn ni yn barod yn edrych ar gynnal treialon clinigol o ganser yr ysgyfaint a mathau eraill o ganser."

Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu cyflwyno mewn cynhadledd ganser Ewropeaidd yn Amsterdam rhwng Medi 27 a'r 1 o Hydref.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol