Dyn wedi brifo: heddlu yn apelio am wybodaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei ddarganfod gydag anafiadau i'w ben yng Nglanarfon, Llanrwst.

Mae'r dyn yn 67 oed, yn denau ac roedd yn gwisgo siwmper streipiog a jîns glas.

Cafodd ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd a dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y cafodd yr anafiadau.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda unrhyw un a welodd y dyn rhwng 10pm nos Iau a 2.25am fore Gwener yn ardal Glanarfon.

Gellir cysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555111.