Damwain: ffordd wedi cau
- Cyhoeddwyd
Mae'r A483 ar gau i'r ddau gyfeiriad wrth ymyl Fforest yn Sir Gaerfyrddin wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Digwyddodd y ddamwain am 6.26 nos Wener.
Cafodd un person ei anfon i'r ysbyty gan hofrenydd, yr un arall gan ambiwlans a rhoddwyd triniaeth ar y safle i'r trydydd person.
Roedd dynion tân o Bontarddulais a Rhydaman yno.