Cei Connah ac Airbus UK Brychdyn yn dathlu

Mae Cei Connah ac Airbus UK Brychdyn yn dathlu ar ôl ennill yn eu gemau yn Uwchgynghrair Cymru nos Wener.

Roedd Cei Connah yn chwarae yn erbyn Bangor a'r sgor terfynol oedd Cei Connah 2-1 Bangor.

Prestatyn oedd yn herio Airbus UK Brychdyn ond Airbus oedd yn fuddugol o 3 gol i 2.