Morgannwg yn gorffen gyda buddugoliaeth

  • Cyhoeddwyd
Clwb Criced MorgannwgFfynhonnell y llun, Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi gorffen y tymor gyda buddugoliaeth trwy guro Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd o wyth wiced.

Wedi i'r glaw atal y chwarae yn llwyr ar y trydydd diwrnod, llwyddodd Morgannwg i gipio holl wicedi'r ymwelwyr am 132 fore Gwener mewn 44.3 pelawd.

Y ser i Forgannwg oedd Jim Allenby (4-16) a Ruairidh Smith (3-50).

Roedd hynny'n gadael targed i Forgannwg o sgorio dim ond 102 am fuddugoliaeth, ac fe lwyddodd Murray Goodwin (50) a Chris Cooke (31) y dasg yn hawdd.

Gyda phob gêm arall ym Mhencampwriaeth y Siroedd wedi gorffen, Cooke gafodd yr anrhydedd o daro rhediad olaf y tymor i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Yn gynharach yn y dydd roedd Michael Hogan a Dean Cosker wedi sicrhau pwynt batio bonws i Forgannwg drwy ychwanegu 62 rhediad am y wiced olaf.

Yna collodd yr ymwelwyr naw wiced am 59 rhediad yn dilyn partneriaeth dda am y wiced gyntaf.

Er i Gareth Rees a Ben Wright golli eu wicedi yn rhad yn yr ail fatiad, llwyddodd Goodwin a Cooke i gyrraedd y nod i orffen y tymor ar nodyn uchel.

Sgor terfynol :-

Morgannwg - 306 a 102 am 2

Sir Gaerloyw - 275 a 132

Morgannwg yn fuddugol o wyth wiced.