Aberth plismyn: Gwasanaeth i gofio wedi ei gynnal yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Tywysog Cymru a Phrif Weinidog Cymru wedi mynychu diwrnod i gofio am heddweision sydd wedi eu lladd tra ar ddyletswydd ar draws Prydain.
Ers deng mlynedd mae'r digwyddiad blynyddol wedi ei gynnal ac fe gafodd y gwasanaeth eleni ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.
Y pwrpas yw ceisio sicrhau nad yw aberth y plismyn yn cael ei anghofio ac mae'n gyfle i deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr y rhai sydd wedi marw i gofio amdanyn nhw.
Cafodd ei sefydlu gan y rhingyll Joe Holness wedi i'w gydweithiwr farw tra yn y gwaith a chredir bod dros 4,000 o blismyn eraill wedi marw ers i blismona modern gychwyn.
Ymhlith yr heddweision a gafodd eu cofio yn y gwasanaeth oedd Fiona Bone a Nicola Hughes oedd yn gweithio gyda heddlu Manceinion. Roedd y ddwy yn credu eu bod yn mynd i alwad am fyrgleriaeth pan gawson nhw eu saethu.
Fe ddarllenodd llysfam Natalie Hughes weddi yn ystod y gwasanaeth a chafwyd darlleniad gan Brif Weinidog Cymru a'r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.
Anrhydedd
Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn lleoliadau gwahanol bob blwyddyn ac fe gafodd ei gynnal yng Nghymru yn 2009 hefyd.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru mae'n "anrhydedd" fod y gwasanaeth yn ôl yma eleni:
"Nid oes modd mesur cyfraniad yr heddlu i'n cymuned. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Yn anffodus, bob blwyddyn mae aelodau o'r heddlu'n rhoi eu bywyd er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael byw'n ddiogel.
"Mae'r gwasanaeth coffa yn gyfle i ni gofio'r swyddogion hynny, ac i sicrhau bod eu perthnasau, eu ffrindiau a'u cydweithwyr yn gwybod nad yw'r aberth wedi mynd yn angof."