Dim perygl i ddŵr yfed meddai Dwr Cymru
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Dwr Cymru nad oedd yna unrhyw berygl i'r cyhoedd
Mae Dwr Cymru wedi pwysleisio nad oedd yna berygl i ddŵr yfed y cyhoedd ar ôl i alwminiwm ollwng i mewn i danc gwastraff y cwmni ger Bangor.
Roedd achos wedi cael ei dwyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn Dwr Cymru yn sgil y digwyddiad yng nghanolfan Mynydd Llandygai a'r cwmni wedi cyfaddef torri amodau caniatâd.
Falf gyda nam oedd wedi achosi i'r alwminiwm ollwng ond dywedodd Dwr Cymru nad oedd yna risg i'w cwsmeriaid ar unrhyw adeg.
Dywedodd y cwmni ei bod wedi rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru yn syth ar ôl sylweddoli'r hyn oedd wedi digwydd ac nad oedd yna unrhyw niwed wedi ei wneud i'r amgylchedd.
Straeon perthnasol
- 1 Medi 2008
- 14 Mehefin 2012
- 17 Mai 2011