Bachgen ifanc wedi ei ffeindio
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed o Landysul Ceredigion oedd ar goll wedi ei ffeindio yn saff.
Roedd heddlu Dyfed Powys wedi bod yn gynyddol bryderus am Jordan Ben Rimmington am nad oedd wedi ei weld ers 3.30pm yn Ysgol Gyfun Emlyn ddydd Gwener.
Ond mae'r heddlu nawr wedi dod o hyd iddo yn saff.