Dyn yn yr ysbyty wedi damwain ar fynydd Rhigos
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi mynd i'r ysbyty ar ôl i'w gar wrthdaro gyda wal ar fynydd Rhigos yn Rhondda Cynon Taf.
Digwyddodd y digwyddiad am 4.50am fore Sadwrn ac fe gafodd y dyn nifer o anafiadau.
Cafodd ei anfon i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr.