Rygbi 13: Cyhoeddi Carfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwpan Rygbi 13 y BydFfynhonnell y llun, Rlwc 2013

Mae Cymru wedi cyhoeddi eu carfan o 23 ar gyfer Cwpan Rygbi 13 y Byd fydd yn dechrau ar Hydref 26 wrth i Gymru herio'r Eidal yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae carfan yr hyfforddwr Iestyn Harris yn cynnwys 14 o chwaraewyr y Super League, gyda phump ohonynt yn debyg o ymddangos yn y Grand Final ddydd Sadwrn.

Dim ond pedwar cap arall sydd angen ar Jordan James o glwb y Salford Reds i fod y chwaraewr gyda'r nifer mwyaf o gapiau erioed i Gymru, gan guro cyfanswm Ian Watson.

Gallai pedwar chwaraewr ennill eu capiau cyntaf i Gymru, gan gynnwys Anthony Walker o St Helens a Larne Patrick o'r clwb orffennodd y tymor ar frig y Super League, Huddersfield Giants.

Mae Patrick yn gymwys i chwarae i Gymru gan mae Cymraes oedd ei nain.

Bydd Rhys Evans o Warrington yn ymuno â'i efaill Ben yn y garfan, a newydd-ddyfodiad arall yw James Guertjens o glwb y North Devils yn Awstralia.

Mae dau aelod o dîm y Crusaders yng ngogledd Cymru yn y garfan, sef Christiaan Roets a Rob Massam, ac er nad oedd yr un o chwaraewyr Scorpions De Cymru yn y garfan, mae'r capten Joe Burke ymhlith y chwaraewyr wrth gefn.

Anafiadau

Y siom i Iestyn Harris yw nad yw Andy Powell (Wigan), Michael Channing (Castleford) na Tyson Frizell (St George Illawara) ar gael oherwydd anafiadau, ond dywedodd yr hyfforddwr:

"Rwy'n croesawu'r pedwar aelod newydd i'r garfan ond yn falch hefyd ein bod yn cadw cysondeb ac nad oes tîm llawn o newydd-ddyfodiaid gennym.

"Mae digon o brofiad gennym gydag 14 o chwaraewyr Super League - y nifer fwyaf erioed yn y garfan - ac mae ein holl chwaraewyr yn gwella'n flynyddol wrth barhau gyda'u gyrfaoedd rhyngwladol.

"Mae'r garfan o 23 yn awchu i gael dechrau arni, ac fel arfer yn anelu at greu sioc neu ddau."

Bydd gan Gymru gêm baratoadol ar Barc Eirias ym Mae Colwyn ar Hydref 15 yn erbyn tîm dethol Rygbi 13 Cymru.

CARFAN CYMRU AR GYFER CWPAN RYGBI 13 Y BYD :-

Neil Budworth (Moranbah Miners, Awstralia), Ross Divorty (Halifax), Gil Dudson, Ben Flower, Rhodri Lloyd (Wigan Warriors), Jake Emmitt, Jordan James (Salford Red Devils), Ben Evans, Elliot Kear (Bradford Bulls), Rhys Evans, Rhys Williams (Warrington Wolves), Dan Fleming (Castleford Tigers), James Geurtjens (Norths Devils, Awstralia), Danny Jones (Keighley Cougars), Craig Kopczak, Larne Patrick (Huddersfield Giants) Peter Lupton (Workington Town), Rob Massam, Christiaan Roets (Crusaders Gogledd Cymru), Matt Seamark (Wynnum Manly Seagulls, Awstralia), Anthony Walker (St Helens), Ian Webster (Central Queensland Capras, Awstralia), Lloyd White (Widnes Vikings).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol