Teyrngedau i'r cyn Archdderwydd Jâms Nicolas
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyn Archdderwydd, Jâms Nicolas, wedi marw yn 84 oed.
Bu farw yn Nhreborth, Bangor, fore Sul.
Cafodd ei eni yn Nhŷ Ddewi, a chafodd ei addysg yn yr ysgol ramadeg yno.
Bu'n sâl yn yr ysbyty am gyfnod o 15 mis tra yn yr ysgol a bu ei fam yn dod â llyfrau Cymraeg iddo eu darllen.
Parhaodd â'i addysg wedyn, gan raddio mewn Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth cyn dechrau ei swydd gynta' fel athro yn Y Bala.
Aeth ymlaen i fod yn bennaeth Ysgol y Preseli yng Nghrymych am nifer o flynyddoedd, cyn cael ei benodi yn arolygydd ysgolion yn 1975, pan symudodd y teulu i Fangor.
Gorsedd y Beirdd
Roedd yn un o Gymrodorion yr Eisteddfod a bu'n Archdderwydd rhwng 1981-1984.
Roedd hefyd yn Gofiadur yr Orsedd am dros chwarter canrif, tan 2006 - y cyfnod hiraf i unrhyw un ymgymryd â'r swydd.
Enillodd Gadair Eisteddfod Y Fflint yn 1969, ac meddai'r cyn Archdderwydd a chyn gofiadur, John Gwilym Jones: "Dyna'r adeg y dechreuodd e gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Orsedd, ac yn arbennig ym Mwrdd yr Orsedd.
"Fe ofynnwyd iddo fe fynd yn gofiadur yr Orsedd yn 1980, ond o fewn ychydig fisoedd roedd yn cael ei benodi'n Archdderwydd.
'Athronydd'
"Yr oedd e'n ddyn dwys iawn ac eto'r ochr arall i'w gymeriad - roedd 'na ddigon o hiwmor yn Jâms, ond roedd e hefyd yn eang iawn ei ddiwylliant.
"Fel pob gwir fathemategydd, roedd e hefyd yn athronydd ac, yn wir, roedd e'n ymddiddori tipyn yn rhai o athronwyr amlyca' yr 20fed Ganrif.
"Roedd hynny'n dod i'r golwg weithiau yn ei waith ac yn ei ddarlithiau," meddai Mr Jones. "Roedd y dyfnder yna'n rhoi rhyw gymeriad arbennig i'w farddoniaeth e."
Mae Mr Nicolas yn gadael gweddw, Hazel, a dwy o ferched, Branwen a Saran a'u teuluoedd.