Ar gof a chadw
Arwel Evans
Newyddion Ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae rôl uned achub arbennig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar gof a chadw oherwydd yr hyn ddywedodd cyn-aelod o'r lluoedd arfog oedd yn gwasanaethu yn Sir Benfro.
Ond ychydig wythnosau ar ôl rhoi'r gwybodaeth am yr uned achub awyr a môr yn Ninbych-y-pysgod bu farw Clifford Burkett, 92 oed, un o'r rhai olaf o'r uned oedd dal yn fyw.
Mae hanes yr uned ar wefan HistoryPoints.org.
Yn ystod y rhyfel roedd nifer o feysydd awyr yn Sir Benfro a Doc Penfro oedd canolfan fwyaf badau hedfan ym Mhrydain.
Roedd yr uned yn Ninbych-y-Pysgod yn Swyddfa'r Harbwr.
Gan fod y llanw allan am oriau bob diwrnod, meddai Mr Burkett, roedd y gwaith yn llawer anoddach.
Roedd wedi sôn am sut yr oedd dynion yn ceisio cyrraedd y badau oedd yn cael eu hangori wrth bier Fictorianaidd y dre'.
Yn anodd
Am fod y gwaith yn anodd ac yn araf, meddai, byddai criwiau achub yn penderfynu byw a chysgu ar y badau am ddyddiau ar y tro.
Roedd Mr Burkett yn y dre' rhwng Medi 1943 a Mawrth 1944 cyn bod yn rhan o'r cyrchoedd ar Normandi.
Dywedodd ei ferch Ruth Crowther: "Fe aethom â Dad i Ddinbych-y-Pysgod ym mis Mehefin ac roedd mor hapus i fod yno.
"Ac roedd yn cofio'n glir rai o'r hen adeiladau."
Dywedodd Rhodri Clark, golygydd gwefan HistoryPoints.org: "Mor drist oedd clywed am ei farwolaeth yn 92 oed.
"Rydym yn ddiolchgar iddo am adrodd ei hanes a'i brofiadau yn glir a dealladwy er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael deall yn well am y cyfnod hwn yn hanes y dre'."