Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau eu cludo i'r ysbyty oherwydd gwrthdrawiad rhwng car a thractor yng Ngwynedd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A493 ger Tywyn ychydig wedi 11:30am ddydd Llun.
Cyrhaeddodd dau griw o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a bu'n rhaid defnyddio offer arbennig i dorri un person allan o'r car.
Roedd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans hefyd yn bresennol.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans: "Cafodd dyn oedrannus ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth gydag anaf i'w goes."
Does dim manylion am gyflwr yr ail berson.