Ymchwilio i lythyrau bygythiol i feirniaid Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu'r gogledd yn ymchwilio ar ôl i lythyrau bygythiol dienw gael eu hanfon at feirniaid eisteddfodol.
Gall BBC Cymru ddatgelu bod dau feirniad gwahanol wedi derbyn llythyrau.
Ddaeth y wybodaeth i law yn sgil ymchwiliad ehangach i system feirniadu Eisteddfod yr Urdd gan raglen materion cyfoes Taro Naw.
Mae un beirniad wedi cael tri llythyr drwy'r post yn ceisio ei pherswadio i roi'r gorau i feirniadu yn gyfan gwbwl.
Mae hi'n disgrifio'r llythyrau fel rhai 'bygythiol' ac maen nhw wedi eu rhoi yn nwylo'r heddlu.
Mewn ymateb i ymholiad gan Taro Naw, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru:
"Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn tri chwyn gan yr un person yn sgil derbyn llythyrau sinistr.
"Nid ydym hyd yma wedi darganfod pwy yw awdur y llythyrau.
"Ar hyn o bryd rydym yn arolygu'r ymchwiliad i weld pa ymholiadau pellach allwn ni eu gwneud."
Dychryn
Fe yrrwyd llythyr arall at feirniad cerdd yn dilyn Eisteddfod yr Urdd dan 15 oed rhanbarth Eryri eleni.
Mae'r llythyr yn cwestiynu gallu'r beirniad i wneud y gwaith ac yn honni bod ganddo ormod o gysylltiad efo'r ardal.
Mae'r beirniad - sy'n cael ei gyfweld ar Taro Naw nos Fawrth - yn gwadu'r cyhuddiadau yn llwyr.
Dywedodd cyfaill i'r beirniad, y gantores a'r hyfforddwr llais Sian Gibson: "'Dach chi'n clywed am y llythyrau yma mae pobol yn eu cael - mae o'n fy nychryn i.
"Mae hwn yn fygythiol - i berson ifanc sy'n rhoi cymaint i mewn i gerddoriaeth."
Mae Taro Naw, sy'n ymchwilio i bryderon am system feirniadu Eisteddfod yr Urdd, hefyd wedi clywed galw am newidiadau mawr er mwyn sicrhau bod beirniaid a chystadleuwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn cael chwarae teg.
Daw hyn yn sgil i'r cerddor Trystan Lewis alw am fwy o gydnabyddiaeth ariannol i feirniaid gan yr Urdd.