Beirniadu absenoldeb gweinidog iechyd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd wedi beirniadu penderfyniad llywodraeth Lafur Cymru i beidio ag anfon cynrychiolydd i drafodaeth deledu ar gyflwr y Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl Plaid Cymru roedd y penderfyniad i beidio ag ymddangos yn nhrafodaeth rhaglen BBC Cymru Week In Week Out nos Lun yn "sgandal".
Fe wnaeth y gweinidog iechyd Mark Drakeford wneud cyfweliad, wedi ei recordio o flaen llaw, ar gyfer y rhaglen.
Roedd arolwg barn gafodd ei gomisiynu gan y rhaglen yn awgrymu fod bron i dri chwarter y rhai gafodd eu holi yn hyderus y byddai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynnig safon gofal uchel, tra bod cyfartaledd tebyg yn dweud nad oeddynt yn gwybod sut i wneud cwyn am y gwasanaeth.
Cafodd y rhaglen ei darlledu o Gaerdydd ac roedd y gynulleidfa dethol yn cynnwys cleifion, staff a gwleidyddion.
Fe wnaeth Llafur Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am y GIG yng Nghymru ers i bwerau gael eu datganoli yn 1999, wrthod anfon cynrychiolydd.
Gweledigaeth Llafur
Yn ystod y drafodaeth dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Elin Jones fod y penderfyniad i beidio anfon cynrychiolydd yn "sgandal".
"Mae'n rhaid i gyfrifoldeb am y GIG gael ei gymryd gan wleidyddion Cymru a gwleidyddion o'r Blaid Lafur.
"Mae'n sgandal nad ydynt yma heno i gymryd rhan yn y drafodaeth am ddyfodol y GIG. Fe ddylwn nhw fod yma ac fe ddylwn nhw fod yn cymryd cyfrifoldeb."
Mae'r GIG yng Nghymru yn wynebu cyfyngiadau ariannol tra bod yna alw cynyddol am rai gwasanaethau, fel unedau brys a gofal am yr henoed.
Ar ôl y rhaglen dywedodd Darren Millar AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, fod hi'n amlwg fod angen newidiadau ond dyna pam ei bod yn bwysig fod pobl yn cael clywed beth yw gweledigaeth Llafur ar gyfer y gwasanaeth.
"Rydym angen gwybod am gynlluniau'r llywodraeth er mwyn gwneud yn siŵr fod rhai o'r pethau sydd wedi bod yn cael eu gwneud yn anghywir yn y gorffennol yn cael eu cywiro.
"Yn y pendraw y gweinidog sy'n atebol am berfformiad y GIG yng Nghymru - am ei fethiannau a'i lwyddiannau."
Targedau
Dywedodd fod y penderfyniad i beidio cymryd rhan yn "gywilyddus."
Credir fod y GIG yn wynebu diffyg o £404 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol - byddai hynny'n cymharu â diffyg o £330 miliwn ar gyfer y llynedd.
Mae'r gwasanaeth wedi methu a chyrraedd rhai targedau allweddol, fel amseroedd aros ar gyfer triniaeth canser, amseroedd aros ar gyfer unedau brys ac amseroedd aros am ambiwlans.
Dywedodd Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod yn bwysig i'r cyhoedd glywed atebion oddi wrth Llafur Cymru.
Dywedodd: "Mae Llafur Cymru wedi bod yn gyfrifol am y GIG am ddegawd a nawr rydym yn wynebu sefyllfa lle yn aml iawn maen nhw'n methu a chyflawni targedau maen nhw eu hunain wedi eu gosod."
"Fe ddylai nhw fod yma, er mwyn amddiffyn eu record a hefyd er mwyn egluro sut maen nhw am wella pethau."
Mewn cyfarfod i'r wasg ddydd Llun fe wnaeth y prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, amddiffyn y penderfyniad i beidio anfon cynrychiolydd i'r drafodaeth.
Egwyddorion
"Rydym wedi gwneud datganiad. Ac mae sicrhau cyfweliad un wrth un gyda gweinidog iechyd yn ganlyniad da iawn i unrhyw raglen deledu."
Ychwanegodd fod yna "fyth" am y gwasanaeth iechyd ond bod canran uchel o gleifion yn fodlon iawn gyda'r gwasanaeth ac mewn rhai meysydd - fel cyffuriau canser - roedd perfformiad y GIG yng Nghymru yn well na'r sefyllfa yn Lloegr.
Yn ei gyfweliad ar gyfer y rhaglen dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "O ran gwledydd Prydain y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sydd wedi cadw agosaf at egwyddorion sefydlydd y Gwasanaeth, Aneurin Bevan.
"Rydym yn benderfynol yma yng Nghymru - yn wahanol i lefydd eraill - i barhau i gynnig gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu a'i gynllunio ar sail anghenion clinigol.
"Dyna'r math o wasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi yn fawr gan gleifion, a dyma'r math o wasanaeth maen nhw'n gwybod y byddant yn parhau i'w dderbyn yma yng Nghymru," meddai Mr Drakeford.
Straeon perthnasol
- 1 Hydref 2013
- 30 Medi 2013