Sir Benfro: Galw am gyfarfod brys
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y grŵp Llafur ar Gyngor Sir Penfro, Paul Miller, wedi galw am gyfarfod brys fel bod modd trafod gwahardd y prif weithredwr, Bryn Parry-Jones, o'i waith dros dro.
Daw'r alwad yn sgil penderfyniad Swyddfa Archwilio Cymru i wrthod rhoi sêl bendith i gyfrifon blynyddol y cyngor oherwydd trefniadau pensiwn rhai o uwchswyddogion y sir.
Dywedodd y Swyddfa Archwilio nad oedd modd cymeradwyo'r cyfrifon tan i drafodaethau cyfreithiol ddod i ben.
Ond ddydd Llun fe wnaeth Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol y cyngor benderfynu o un bleidlais i gymeradwyo cyfrifon 2012-13.
Mae gan y cyngor sir saith diwrnod i ymateb i gais y Cynghorydd Miller.
Yn ei lythyr yn galw am gyfarfod brys dywedodd y dylai cynghorwyr ystyried tri chynnig:
- Dylid newid penderfyniad gwneud taliadau pensiwn uniongyrchol i'r prif weithredwr;
- Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu panel annibynnol i ymchwilio i'r penderfyniad a sut y cafodd ei benderfynu mewn cyfarfod preifat;
- Gwahardd y prif weithredwr o'i swydd ar unwaith tan fod ymchwiliad annibynnol yn cyhoeddi ei benderfyniad.
Dywedodd y Cynghorydd Miller fod penderfyniad y Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol i wneud taliadau uniongyrchol yn "golygu codiad cyflog sylweddol i'r prif weithredwr."
Mae llefarydd ar ran y cyngor wedi dweud y bydd y Cynghorydd Arwyn Williams, cadeirydd y cyngor sir, yn gwneud penderfyniad am y cais am gyfarfod brys o fewn dyddiau.
Cadw a recriwtio
Dywedodd y cyngor fod newidiadau mewn taliadau pensiwn wedi eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod cadw a recriwtio uwchreolwyr yn haws.
Fel arall, meddai, byddai rhaid talu mwy o drethi. Ychwanegodd na fydai'r penderfyniad yn golygu mwy o gost i'r cyngor sir.
Fe wnaeth y Swyddfa Archwilio wrthod rhoi sêl bendith i gyfrifon Sir Gaerfyrddin.
Mae rhai'n honni bod penderfyniad y ddau gyngor i ganiatáu i uwchswyddogion ddewis peidio â bod yn rhan o'u cynllun pensiynau yn anghyfreithlon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013
- Cyhoeddwyd27 Medi 2013