Gwella ysgolion: Pedwar consortiwm yn lle cynghorau
- Cyhoeddwyd

O Ebrill ymlaen, meddai'r Gweinidog Addysg, nid cynghorau Cymru fydd yn gyfrifol am wella gwasanaethau ysgolion.
Dywedodd Huw Lewis y bydda'r cyfrifoldeb - a'r arian perthnasol - yn cael ei drosglwyddo i bedwar consortiwm addysg.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd ei fod yn derbyn un o argymehllion Adroddiad Robert Hill.
Mae bron chwarter o'r awdurdodau sy'n gyfrifol am addysg yng Nghymru wedi cael eu rhoi dan fesurau arbennig wrth i arolygwyr ddweud nad oedd eu gwaith yn ddigon da.
Yn ei adroddiad roedd Mr Hill wedi dweud: "Mae'r ffaith fod yna nifer o awdurdodau bychain yng Ngymru yn cyfrannu at hyn."
Roedd yr adroddiad wedi argymell y dylid sefydlu byrddau i lywodraethu'r consortia ac y dylai'r consortia gymryd rhan mewn archwiliad ddwywaith y flwyddyn gyda'r Gweinidog Addysg.
'Pryderus'
O dan yr argymhellion byddai pob consortiwm yn cael ei ariannu drwy drosglwyddo cyllid o setliad llywodraeth leol 2014-15.
Ond ddydd Mawrth dywedodd Mr Lewis: "Bydd gan awdurdodau lleol ran hanfodol i'w chwarae yn yr ymgyrch hon ond dwi'n mynd yn fwyfwy pryderus ynghylch lefel eu hymrwymiad i weithio mewn consortia.
"Rydyn ni wedi rhoi digon o amser iddyn nhw gael trefn ar y sefyllfa ond heddiw dwi'n cymryd camau i sefydlu model cenedlaethol ar gyfer gweithio rhanbarthol."
Ond mae'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi codi cwestiynau am y drefn newydd.
Dywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, fod dyfodol ysgolion yn parhau yn aneglur.
"Mae hwn yn gyfle arwyddocaol i weinidogion wella'r drefn ar ôl blynyddoedd o wneud dim, yn enwedig o gofio bod ysbryd staff yn gostwng.
"Dim ond blwyddyn yn ôl roedd consyrn am berfformiad consortia rhanbarthol.
"Heddiw maen nhw wedi derbyn cyllido uniongyrchol.
"Mae angen sicrwydd fod gwelliannau wedi bod ac y bydd y newidiadau'n gweithio."
Mwy o sicrwydd
Dywedodd Aled Roberts, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar addysg, fod angen mwy o sicrwydd am ymatebolrwydd y consortia rhanbarthol.
"Byddaf yn cwestiynu penderfyniad y gweinidog i dderbyn dim ond un cynrychiolydd o'r sector uwchradd, un o'r sector gynradd ac un o'r sector addysg arbennig.
"Mewn rhanbarthau fel gogledd Cymru, sy'n cynnwys chwe sir, mae hynny'n golygu risg o ddiffyg ymatebolrwydd democrataidd.
"Mae angen gwybod pa broses mae'r gweinidog yn bwriadu ei defnyddio er mwyn penodi cynrychiolwyr."
Siomedig
Dywedodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar addysg, fod ymateb y gweinidog i Adroddiad Hill yn siomedig.
"Fe allai'r llywodraeth wedi gwneud hyn flwyddyn yn ôl heb aros am Adroddiad Robert Hill."
Dywedodd eu bod wedi anwybyddu nifer o argymhellion yn ymwneud â llywodraethu, ymatebolrwydd a safonau cyffredin ymhlith y consortia.
"Fe fydd darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn parhau yn annibendod oni bai ein bod yn datrys materion yn ymwneud â llywodraethu, ymatebolrwydd, rhannu data a thargedau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013