Ceisio cynyddu nifer menywod mewn bywyd cyhoeddus
- Cyhoeddwyd

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio cynllun newydd i geisio cynyddu'r nifer o fenywod sydd mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r Llywydd, Rosemary Butler AC yn lansio porthol Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus, fydd yn rhoi gwybodaeth am y cyfleodd ym mywyd cyhoeddus.
Caiff y cynllun ei weithredu mewn partneriaeth a'r prosiect Merched yn Gwneud Gwahaniaeth.
Dywedodd Ms Butler bod angen y cynllun i fynd i'r afael a'r rhwystrau sy'n bodoli i fenywod.
Gwybodaeth
Bydd y porthol newydd yn rhoi gwybodaeth i fenywod am "sut i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus", gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd hyfforddi a chyngor gan "fenywod ysbrydoledig sydd eisoes wedi llwyddo mewn swyddi cyhoeddus".
Fel rhan o ymgyrch gafodd ei lansio gan y Llywydd 18 mis yn ôl, cafodd menywod yng Nghymru eu holi ar y rhwystrau sy'n bodoli iddyn nhw.
"Pan edrychwch ar y ffigurau ynghylch nifer y menywod a geir mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, mae'n eich sobri," meddai Ms Butler.
"Un o'r prif awgrymiadau oedd sefydlu porthol ar y we ac rydym yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw heddiw."
Bydd y wybodaeth ar gael drwy wefan Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus neu drwy'r cyfrif Twitter @MenywodCymru.Un sy'n cefnogi'r ymgyrch yw'r gwyddonydd, y Farwnes Susan Greenfield.
"Credaf fod angen i ni gyd gael mentor, a gallwn oll geisio sicrhau bod menywod yn helpu menywod eraill, yn hytrach na thynnu'r ysgol oddi tanynt.
"Dyna pam rwyf yn cefnogi ymgyrch Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd a'r porthol ar y we."
Bydd y porthol yn cael ei lansio yn y Cynulliad ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- 4 Mawrth 2013
- 24 Ebrill 2013