Giggs ar drothwy record arall
- Cyhoeddwyd

Mae Ryan Giggs eisoes wedi torri recordiau dirifedi ym myd pêl-droed, ond mae cyn chwaraewr Cymru ar drothwy un arall nos Fercher.
Mae'r Cymro wedi ei gynnwys yng ngharfan Manchester United ar gyfer eu gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Shakhtar Donetsk.
Os fydd Giggs yn chwarae rhan yn y gêm, fe fydd wedi chwarae mwy o gemau yn y gystadleuaeth na'r un arall.
Ar hyn o bryd mae Giggs wedi chwarae 144 o weithiau yn y gystadleuaeth, ac mae hynny'n gyfartal â record Raul o Real Madrid.
Pan glywodd Giggs, sydd bellach yn rhan o'r tîm hyfforddi yn Old Trafford, am y record roedd wedi'i synnu a dywedodd:
"Go iawn? Doeddwn i ddim yn gwybod hynny.
"Mae cymaint o chwaraewyr gwych wedi bod yn rhan o'r gystadleuaeth yma dros y blynyddoedd ac mae Raul gyda'r goreuon.
"Os fyddaf yn llwyddo i guro'r record fe fydd yn destun balchder mawr i mi."
Mae Giggs wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith (1999 a 2008) ynghyd ag Uwchgynghrair Lloegr 13 o weithiau.
Bydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 cyn diwedd y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- 4 Gorffennaf 2013
- 5 Mawrth 2013
- 1 Mawrth 2013