Bysus: Cwmniau lleol i lenwi'r bwlch?
- Cyhoeddwyd

Dywed arweinydd cyngor Ceredigion ei bod hi yn obeithiol y bydd cwmni lleol yn llenwi'r bwlch pe bai cwmni Arriva yn parhau a'u bwriad i roi'r gorau i nifer o wasanaethau yn y canolbarth.
Yn ôl Elen ap Gwyn mae'r cyngor am gyd-weithio a chwmnïau bysiau lleol gyda'r gobaith o ddarparu gwasanaethau gwell na'r rhai sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd.
Daw ei sylw ar ôl i gwmni Arriva gyhoeddi ddoe eu bod am gau cau pedair canolfan yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Dywedodd y cwmni fod yna 46 o swyddi yn y fantol ac y byddai'r penderfyniad yn effeithio ar chwech o wasanaethau presennol.
Yn ôl llefarydd ar ran Arriva, nid oes modd cadw'r gwasanaeth presennol oherwydd costau tanwydd uchel ynghyd â'r ansicrwydd ynglŷn ag arian cymhorthdal.
'Denu cwsmeriaid'
Ond dywedodd Richard Lloyd Jones, rheolwr cyffredinol cwmni Lloyds Coaches ym Machynlleth y byddai ei gwmni ef a chwmnïau eraill yn fodlon ystyried y posibiliadau.
"Dwi'n meddwl fod cwmnïau bysus yng nghefn gwlad Cymru fod gennym fwy o afael a dealltwriaeth o fecanwaith cymunedau Cymraeg, a dwi'n meddwl bod gwell cyfle i ni fel cwmnïau i lenwi'r bwlch mae Arriva yn ei adael.
"Byddwn yn ystyried yn naturiol yr opsiynau heb os nac oni bai," meddai Mr Jones mewn cyfweliad ar raglen y Post Cynta ar Radio Cymru.
"Bydd rhaid i ni gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol a gyda Llywodraeth Cymru a dwi'n meddwl mai'r ford ymlaen ydi edrych ar sut y gallwn ni wella ar y sefyllfa sydd wedi bod hyd at yma a rhaid edrych ar ffyrdd o ddenu cwsmeriaid i'r gwasanaethau..."
Bwriad Arriva yw cau canolfan Aberystwyth ynghyd â chanolfannau llai yn Llambed, Cei Newydd a Dolgellau ar Ragfyr 21.
Gwasanaethau
Bydd penderfyniad Arriva i gau'r canolfannau yn effeithio ar wasanaethau 20, 40, 40C, 50, 585 a X94.
Mae'r 585 yn cysylltu Aberystwyth a Llambed.
Mae'r gwasanaethau 20 a 40 rhwng Aberystwyth, Aberaeron, Llambed, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd.
Y gwasanaeth 50 sy'n cysylltu Synod Inn ac Aberystwyth, gan alw yn Aberaeron, tra bod yr X94 yn cysylltu Wrecsam, Dolgellau a'r Bermo.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newyddion yn "siomedig" a'u bod yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i ystyried pa gamau i'w cymryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2007
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2006