Ad-drefnu ysgolion gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
Ysgol
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cabinet wedi pleidleisio o blaid cynnal ymgynghoriad

Mae cynghorwyr yng Ngheredigion gam yn nes at ddechrau ar gyfnod o ymgynghori statudol ynglŷn â newid darpariaeth addysg rhwng 3 a 16 oed yn ardal Tregaron.

Nawr bydd penderfyniad dau o bwyllgorau'r cyngor - y pwyllgor trosolwg a'r pwyllgor craffu cymunedau sy'n dysgu - yn cael ei drafod gan y Cabinet llawn yn yr wythnosau nesaf.

Yn ôl y cynllun sy'n cael ei ffafrio gan gynghorwyr byddai ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewi Brefi yn cau ac yn dod yn rhan o ysgol newydd fydd yn darparu addysg rhwng 3 a 16 oed ar safle Ysgol Uwchradd Tregaron.

Fyddai chweched dosbarth ddim yn rhan o'r ysgol newydd.

Yn ôl swyddogion addysg byddai'r cynllun yn cynnwys dros £1 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr adeiladau presennol er mwyn sicrhau "amgylchiadau addysgu o'r radd flaenaf".

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Craffu, y cynghorydd Paul Hinge: "Roedd yna lawer o drafodaeth ynglŷn â'r cynlluniau ac rydym yn derbyn eu bod wedi cael cryn sylw ac ymateb cymysg.

"Rydym wedi ystyried yr ymateb yn fanwl, a hefyd wedi gorfod ystyried ffactorau fel cyllido a lleoedd gwag.

"Roedd pawb o'r farn mai'r cynllun gerbron yw'r ffordd gorau ymlaen o ran sicrhau dyfodol addysg yn Nhregaron o ran yr adnoddau sydd ar gael.

Fe fydd argymhelliad y Pwyllgor Craffu, sef symud ymlaen i gyfnod o ymgynghori statudol, yn cael ei drafod gan y Cabinet llawn ar Hydref 15.