David Jones: 'Mae angen cydweithio'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol David Jones wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o weithredu polisïau sy'n gwneud Cymru'n llai llewyrchus.
Wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, dywedodd Mr Jones fod angen i Lafur yng Nghymru weithio gyda Llywodraeth y DU er budd Cymru.
Dywedodd nad yw hyn wedi bod yn digwydd a bod llywodraeth Carwyn Jones wedi bod yn gwneud y "gwrthwyneb".
Roedd dryswch wedi bod yn gynharach ynglŷn ag os mai Mr Jones ynteu Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Andrew RT Davies fyddai'n cynrychioli Cymru yn y drafodaeth ar ddyfodol y DU.
'Help llaw'
Wrth annerch y dorf, dywedodd David Jones: "Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth efo ni, angen dilyn polisïau sy'n mynd i wneud Cymru'n fwy llewyrchus.
"Gwaetha'r modd mae'n edrych fel eu bod nhw, mewn llawer o ffyrdd, yn gwneud y gwrthwyneb."
Dywedodd Mr Jones fod llywodraeth y DU wedi ceisio rhoi hwb i economi Cymru drwy ddilyn polisi o leihau rheoliadau drwy ddilyn polisi o "un fewn, dau allan".
"Rydym yn dilyn polisïau er mwyn rhoi help llaw i deuluoedd Cymreig," meddai Mr Jones, "ond maen nhw [Llywodraeth Cymru] yn araf yn dilyn ein hesiampl."
Adeiladu
"Edrychwch ar adeiladu tai er enghraifft, rydym yn credu bod cynyddu'r nifer o dai sydd ar gael yn hollbwysig.
"Nid yn unig rydym ni'n darparu tai newydd i bobl weithgar anelu atyn nhw ond rydym hefyd yn rhoi hwb i'r diwydiant adeiladu sydd mor bwysig yn economaidd.
"Dyna pam rydym yn rhoi cefnogaeth i'r sector drwy gyfrwng y fenter Help to Buy fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc uchelgeisiol ymuno â'r ysgol eiddo gyda blaendal o ddim ond 5%.
"A dyna pam mae Eric Pickles yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau'r rheoliadau diangen sy'n effeithio ar adeiladwyr.
"Yng Nghymru, sy'n cael ei rhedeg gan Lafur, does dim o hyn yn digwydd."
Iechyd
Yn gynharach roedd Andrew RT Davies wedi codi amheuon am lais Cymru yng nghabinet y DU yn y dyfodol.
Dywedodd Mr Davies y gall trosglwyddo mwy o bwerau i'r Cynulliad arwain at gael gwared ar ysgrifennydd Cymru.
Roedd peth dryswch dros ba un o'r ddau ddylai siarad yn y digwyddiad, gan arwain at benderfyniad y byddai'r ddau yn rhannu'r llwyfan.
Defnyddiodd Mr Davies ei amser yno er mwyn beirniadu polisi iechyd Llywodraeth Cymru, gan ddweud eu bod yn lleihau gwariant ar y maes tra mae llywodraeth San Steffan yn cynyddu gwariant.
Straeon perthnasol
- 30 Medi 2013
- 29 Medi 2013