Trywanu: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Roedd yr ymosodiadau nos Fawrth ger campws Prifysgol Glyndwr
Mae dyn lleol 20 oed wedi ei arestio wedi i fyfyriwr gael ei drywanu ger campws Prifysgol Glyndwr yn Wrecsam nos Fawrth.
Roedd ymosodiad hefyd ar ddau arall.
Mae myfyriwr yn cael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor a chafodd myfyrwraig fân anafiadau.
Dywedodd y brifysgol a'r heddlu eu bod am roi sicrwydd i'r cyhoedd fod y digwyddiad yn ynysig.
Yn ôl y Prif Arolygydd Neil Maxwell: "Mae'r dyn gafodd ei arestio o ardal Llai.
"Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111."