Cyhoeddi 'pecyn' i helpu Cyngor Blaenau Gwent wella
- Cyhoeddwyd

Am y tro cynta' bydd Gweinidog Llywodraeth Leol yn defnyddio pwerau i helpu cyngor i wella.
Dywedodd Lesley Griffiths y byddai ei phwerau o dan Adran 28 Mesur Llywodraeth Leol 2009 yn golygu "pecyn o gefnogaeth" i Gyngor Blaenau Gwent.
Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi yn Ebrill 2013 dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru fod angen "arweiniad effeithiol, rheoli a chyflawni cyson".
Ers Mai, meddai'r swyddfa, mae'r cyngor wedi anelu at ennill tir ond dyw'r camau ddim wedi bod yn ddigonol.
Mae eu llythyr diweddara' at y cyngor wedi dweud bod "arweiniad a dulliau penderfynu'n anghyson".
Dyw'r cyngor, meddai, ddim wedi cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â phwysau ariannol yn y dyfodol a pherfformiad amrywiol.
Dywedodd y gweinidog y byddai'n gwneud datganiad am fanylion y pecyn a phryd y dylid cyfawni amcanion.
Straeon perthnasol
- 16 Mai 2013
- 24 Awst 2011