Cyngor Abertawe angen arbed £45m
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Abertawe yn dweud bod yn rhaid iddynt wneud arbedion o £45m erbyn 2017.
Mae'r awdurdod wedi gofyn am farn trigolion ar sut i arbed arian cyn y gyllideb y flwyddyn nesa'.
Mae cynghorau ar draws Cymru'n gorfod ymdopi â llai o gyllid yn sgil toriadau Llywodraeth y DU trwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Rob Stewart, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gyllid: "Mae cyngor Abertawe wedi ymrwymo i wella bywydau trigolion pob dydd a diogelu gwasanaethau rheng flaen sy'n golygu cymaint i'r cymunedau ry'n ni'n gweithio drostynt.
"Mae'n rhaid i ni hefyd gyflwyno arbedion o hyd at £45m erbyn 2017 ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni newid os ydym am barhau i wella bywydau trigolion.
"Ond dyw hyn ddim yn ymgynghoriad ynglŷn ag arbed arian yn unig. Mae gennym gyfle i drawsnewid y cyngor trwy ddod o hyd i ffyrdd gwell o wneud pethau a gwella'r gwasanaethau ry'n ni'n cynnig.
"Trwy fod yn arloesol a meddwl yn wahanol gallwn ddarparu gwasanaethau o'r safon ucha' sy'n gynaliadwy yn yr hirdymor.
"Erbyn 2017 gallai'r cyngor edrych yn wahanol iawn i'r hyn sydd gennym heddiw."
'Dim penderfyniadau'
Ychwanegodd nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud a bod angen ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau, yn ogystal â diwygio'r gwasanaethau eu hunain.
Yn y flwyddyn ariannol bresennol, mae yna ddiffyg o £7.7m yng nghyllid y cyngor ac maent yn bwriadu gwneud arbedion trwy "leihau staff" yn sgil ymddeoliadau cynnar neu ymddiswyddiadau gwirfoddol.
Maent hefyd wedi cynyddu treth cyngor o 3.8% - sy'n cyfateb i gynnydd o thua £38 i breswylwyr mewn cartrefi Band D - ac maent yn defnyddio gwerth £2.2m o gynilion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013