Saethu Casnewydd: Rhyddhau o'r ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae'r dyn gafodd ei anafu yn ddifrifol mewn saethu yng Nghasnewydd wedi ei ryddhau o'r ysbyty.
Cafodd Christopher Parry, 49, ei saethu yn ei wyneb yn y digwyddiad ar Seabreeze Avenue ar Awst 8.
Bu farw ei wraig, Caroline, oedd yn 46, yn y digwyddiad.
Roedd Mr Parry yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, ond dywedodd yr heddlu ei fod wedi ei symud i "gyfleusterau addas" erbyn hyn.
'Tair ergyd'
Cafodd yr heddlu eu galw i Seabreeze Avenue am 8:45am ar ddiwrnod y digwyddiad wedi i'r ddau gael eu canfod gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd trigolion iddyn nhw glywed tair ergyd o wn cyn canfod y ddau'n gorwedd ar lawr.
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw Mrs Parry yn ddiweddarach.
Daeth yr heddlu o hyd i wn ar y safle, a dau arall yng nghartref Mr Parry.
Triniaeth
Mae'r heddlu yn dweud nad yw Mr Parry mewn cyflwr digon da i gael ei holi eto.
"Dydy'r gŵr 49 oed sydd wedi bod dan ofalaeth Ysbyty Brenhinol Gwent ers y saethu ar Seabreeze Avenue ddim yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty hwnnw bellach," meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.
"Ond, mae'n parhau i gael triniaeth addas.
"Bydd plismyn sy'n rhan o'r ymchwiliad yn siarad gyda'r dyn cyn gynted ac y mae ei iechyd yn galluogi hynny."
Deellir bod Mrs Parry wedi symud o'i chartref yng Nghroesyceiliog, Cwmbrân, a'i bod yn byw yng Nghasnewydd.
Roedd Heddlu Gwent yn ymwybodol o drafferthion yn y berthynas rhwng y ddau eisoes, ac mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio i'r mater.
Straeon perthnasol
- 13 Awst 2013
- 3 Medi 2013
- 9 Awst 2013