BBC Cymru Fyw

Damwain M4: Dynes wedi marw

Published

Mae dynes 77 oed wedi marw yn dilyn damwain rhwng car a lori ar yr M4 neithwr.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yn dilyn y ddamwain lle bu farw yn hwyrach.

Yn ôl Heddlu Gwent roedd y ddynes o ardal Dyfnaint.

Mae dyn 32 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar amheuaeth o ddynladdiad.

Gan fod y lori yn cael ei defnyddio ar gyfer pwrpas gwaith mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu.

Roedd y ffordd rhwng cyffordd 24 yng Ngholdra a chyffordd 26 A4051 Ffordd Malpas wedi ei chau yn dilyn y ddamwain, ond mae hi bellach wedi ail-agor.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.

Straeon perthnasol

  • Rhan o'r M4 ar gau wedi damwain