Cosb lymach i ACau sy'n torri'r rheolau
- Cyhoeddwyd

Mae Aelodau Cynulliad sy'n torri'r rheolau yn wynebu sancsiynau mwy difrifol wedi i'r Cynulliad bleidleisio o blaid newidiadau i'r system gosbi.
O hyn allan gallai aelodau gael eu gwahardd o adeiladau'r Cynulliad a rhag cynrychioli'r sefydliad mewn digwyddiadau.
Byddai unrhyw aelod fyddai'n cael ei wahardd hefyd yn colli ei cyflog.
Yn flaenorol, cerydd yn unig oedd y gosb fwyaf difrifol i aelod oedd yn camymddwyn.
Mae dau achos o gamymddwyn ACau wedi dwyn sylw'r wasg yn gymharol ddiweddar, un yn ymwneud â'r aelod Llafur Keith Davies a'r llall ag aelod Plaid Cymru Bethan Jenkins.
Yn dilyn hyn fe wnaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad argymell fod angen cryfhau'r system ddisgyblu er mwyn "dangos ein hymrwymiad i greu Cynulliad Cenedlaethol lle mae'r aelodau'n atebol am eu gweithredoedd os nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchel sy'n ddisgwyliedig ohonynt gan eu hetholwyr".
Geiriau cadeirydd y pwyllgor Mick Antoniw oedd y rheiny - fe wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno gydag ef a ddydd Mercher pleidleisiodd y Cynulliad yn unfrydol o blaid y rheolau newydd.
Mae'r rheolau sefydlog wedi cael eu newid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012