Dewis dau safle i deithwyr yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Teithwyr
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Cyngor Abertawe yn trafod sefydlu safle arall i deithwyr ar Hydref 21

Mae dau safle yn Abertawe wedi eu clustnodi ar gyfer sefydlu safle parhaol i deithwyr.

Mae'r safleoedd yn Y Cocyd a Llansamlet yn ddwy o bump sydd wedi bod dan ystyriaeth.

Roedd dau safle yng Ngorseinon hefyd yn cael eu hystyried, ac un ym Mhenderi.

Mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi ddydd Iau, ond ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Hen drac rasio cŵn yn y Cocyd a safle ar ffordd Peniel Green yn Llansamlet yw'r safleoedd sydd wedi cael eu hargymell gan gyngor Abertawe.

Mae un safle i deithwyr eisoes yn Llansamlet ond nid yw'n bosib ei ymestyn ymhellach.

Mae ymgyrchwyr wedi gwrthwynebu adeiladu safle arall yno.

Bydd cynghorwyr yn trafod y mater ar Hydref 21, ond bydd rhaid disgwyl am benderfyniad terfynol.

'Camddealltwriaeth'

Mae arweinydd cyngor Abertawe yn cydnabod bod y mater yn debygol o hollti barn, ond mae'n dweud bod camddealltwriaeth ynghylch y cynllun.

"Mae'n hawdd deall bod gan bobl bryderon ond mae llawer o'r pryderon hyn yn ymwneud â phethau nad ydynt yn gwybod amdanynt," meddai'r cynghorydd David Phillips.

"Dydy'r safle sydd eisoes ym Mhant-y-Blawd tu ôl i Asda heb gael yr un cwyn amdano. Dydy llawer o bobl ddim yn gwybod ei fod yno hyd yn oed.

"Mae dau deulu wedi bod yn byw yno ers 40 mlynedd ac mae eu plant wedi bod i ysgolion. Maen nhw jyst eisiau byw mewn carafán.

"Mae yna gamddealltwriaeth. Mae pobl yn cymysgu'r rheiny sy'n parcio yn anghyfreithlon ar stadau diwydiannol ac ati hefo'r safleoedd sy'n gyfreithlon."

Dywedodd cyngor Abertawe bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol edrych ar gyfleusterau i deithwyr.

Roedd gan drigolion lleol tan Fawrth 31 i ddweud eu barn ynglŷn â'r cynlluniau, ac mae rhai wedi dechrau ymgyrchoedd yn gwrthwynebu'r safleoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Abertawe: "Bydd yr adroddiad diweddaraf ynglŷn â gwaith y cyngor i ddewis ail safle i gymunedau sipsiwn a theithwyr yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol