Rhybudd melyn am lifogydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn wrth i law trwm effeithio ar Gymru ddydd Iau.
Gallai cawodydd trwm symud o'r de i'r gogledd drwy gydol y dydd.
Y rhybudd melyn yw'r un i fod yn wyliadwrus.
"Fe allen ni weld dwy fodfedd neu 50 milimedr o law yn cwympo mewn ambell i le," meddai cyflwynydd tywydd Radio Cymru, Owain Wyn Evans.
'Cymryd pwyll'
"Y de a'r canolbarth yw'r llefydd mwya' tebygol o weld y glaw tryma' ac fe alle hyn arwain at lifogydd a thrafferthion ar y ffyrdd.
"Y cyngor yw cymryd pwyll ar y ffyrdd y prynhawn 'ma.
"Ond fe fydd hi'n troi rhywfaint yn sychach ymhellach i'r de erbyn diwedd y prynhawn cyn bod rhagor o law yn cyrraedd heno."
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai ffosydd a nentydd bychain orlifo.
Bydd y glaw yn effeithio ar bob rhan o'r wlad ond yn y de yn bennaf.