Rhybudd Laudrup am ysbryd St Gallen

Michael Laudrup Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dywedodd Michael Laudrup fod St Gallen yn dîm "llawn cymeriad"

Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Michael Laudrup wedi rhybuddio'i chwaraewyr am "ysbryd" eu gwrthwynebwyr yng Nghynghrair Europa nos Iau, St Gallen.

Dangosodd y tîm o'r Swistir eu gallu yn y rowndiau rhagbrofol drwy guro Spartak Moscow.

Fe fydd Abertawe'n hyderus ar ôl chwalu cewri Valencia o 3-0 yn Sbaen yn y gemau cyntaf yn y grŵp.

Ond dywedodd Laudrup: "Rwy'n edrych ymlaen at gêm anodd i ni, ac er ein bod yn gwneud yn dda rhaid i ni gadw llygad ar eu hysbryd nhw."

Dim ond un tîm o Uwchgynghrair Lloegr y mae St Gallen wedi wynebu erioed ond fe wnaethon nhw guro Chelsea bryd hynny yn rownd gyntaf yr hen Gwpan UEFA yn 2000.

Fe wnaethon nhw guro Kuban Krasnodar 2-0 yn eu gêm agoriadol nhw yn y grwpiau bythefnos yn ôl.

'Gweithio'n galed'

"Does ganddyn nhw ddim sêr mawr yn eu tîm," meddai Laudrup, "ond maen nhw'n gweithio'n galed iawn.

"Yn erbyn Spartak Moscow roedden nhw gôl ar ei hôl hi wedi dim ond 51 eiliad, ond yna wedi 35 munud roedden nhw ar y blaen o 3-1 yn Rwsia.

"Mae'n amlwg felly bod llawer o gymeriad yn perthyn i'r tîm."

Fe fydd rhaid i Abertawe ddechrau'r gêm heb eu capten Ashley Williams, Garry Monk na Pablo Hernandez.

Abertawe: Tremmel, Tiendalli, Davies, Britton, Chico, Amal, Pozuelo, De Guzmán, Bony, Michu, Routledge

Eilyddion: Vorm, Taylor, Shelvey, Dyer, Lamali, Cañas, Alvaro

St Gallen: Lopar, Martic, Lenjani, Janjatovic, Montandon, Besle, Vitkieviez, Mutsch, Karanoviç, Mathys, Rodriguez

Eilyddion: Nushi, Nater, Keita, Wüthrich, Herzog, Russo

Dyfarnwr: Nuno Duarte Gomes

Straeon perthnasol