Ymgyrch Dino: Cyhuddo 86

  • Cyhoeddwyd

Mae 86 o bobl wedi cael eu cyhuddo fel rhan o ymchwiliad Heddlu Gwent i dwyll yswiriant.

Mae'r honiadau yn ymwneud â garej ym Mhengam yn y Coed Duon, oedd yn cael ei alw yn St David's Crash Repair ac Easifix.

Mae'r 86, sydd o Sir Gaerffili a Chaerdydd, yn wynebu nifer o gyhuddiadau gwahanol gan gynnwys cynllwynio i dwyllo cwmnïau yswiriant, cynllwynio i ddwyn cerbydau modur a chynllwynio i ailgylchu arian.

Mae disgwyl iddyn nhw i gyd ymddangos o flaen Llys Ynadon Cwmbrân ar Hydref 10.

Cafodd yr ymchwiliad - sy'n cael ei alw yn Ymgyrch Dino - ei sefydlu yn ôl yn 2011 er mwyn ymchwilio i bobl oedd yn ceisio twyllo drwy drefnu damweiniau er mwyn cael gafael ar yr arian yswiriant.

Dywedodd y ditectif sarjant Andy Cullen, sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch o'r dechrau: "Mae tîm o swyddogion a ditectifs wedi bod yn ymchwilio i'r fenter 'arian am ddamwain' yma, gan weithio gyda'r Insurance Fraud Bureau am dros ddwy flynedd.

"Mae hyn wedi arwain at arestio a chyhuddo 86 unigolyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol