Tynnu enw rheolwraig cartref gofal preswyl oddi ar gofrestr

  • Cyhoeddwyd
Cartre' gofal
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cartre' yn arbenigo mewn gofal i bobl gyda dementia.

Mae enw rheolwraig cartref gofal preswyl, sy'n arbenigo mewn gofal i bobl gyda dementia, wedi cael ei dynnu oddi ar gofrestr gweithwyr gofal cymdeithasol.

Y rheswm oedd ymarfer gwael ac anonestrwydd.

Clywodd gwrandawiad yng Nghaerdydd nad oedd Debra Mary Diane Cheshire, oedd yn cael ei chyflogi gan Adiemus Care, wedi sicrhau bod preswylwyr y cartref yn derbyn gofal cyson a digonol a'i bod hi wedi camarwain arolygwr cofrestredig am faterion pwysig.

Daeth i'r amlwg nad oedd wedi sicrhau bod staff yn y cartref wedi derbyn hyfforddiant digonol mewn cymorth cyntaf a sgiliau adfywhau cleifion.

Celwyddau

Ni chadwodd gofnodion hyfforddiant a dogfennau cynnal a chadw yn y cartref.

Clywodd y panel nad oedd hi wedi gallu cynnig gofal a diogelwch addas i breswylwyr a'u teuluoedd yn sgîl nifer o fethiannau yn y cartref.

Hefyd roedd hi wedi dweud celwyddau wrth gydweithiwr proffesiynol ynglŷn â thasgau gwaith pwysig oedd yn berthnasol i offer adfer bywyd ac am hyfforddiant ar yr offer.

Bwriad y celwyddau oedd twyllo'r cydweithiwr a rhoi'r argarff ei bod eisoes wedi mynd i'r afael â materion yn sgîl marwolaeth preswylydd.

Ond nid oedd hyn wedi digwydd.

'Ymddiried'

Dywedodd y panel: "Roedd preswylwyr y cartref a'u teuluoedd yn ymddiried ynddi hi i reoli'r cartref ac i sicrhau bod safonau digonol o ofal a diogelwch.

"Roedd nifer o fethiannau yn golygu nad oedd hi'n gallu cynnig y lefel gofal a diogelwch.

"Er nad oedd hi'n bwriadu achosi niwed, mae'r methiannau hyn wedi arwain at effaith andwyol ar les ac urddas y preswylwyr hyn, llawer ohonyn nhw'n bobl sy'n agored i niwed."