Dau gyngor yn y de o blaid ceisiadau drilio
- Cyhoeddwyd

Mae dau gyngor wedi cymeradwyo ceisiadau rhagarweiniol ar gyfer profion drilio er gwaetha' pryderon rhai am ffracio.
Roedd cwmni Coastal Oil & Gas wedi gofyn i gynghorau Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf ystyried ceisiadau drilio ar bedwar safle.
Mae tri safle ym Mro Morgannwg ac un arall yn Llantrisant.
Roedd y cynghorau'n trafod y ceisiadau nos Iau er mwyn asesu a oedd strwythur a daearyddiaeth y safleoedd yn addas ar gyfer ffracio.
Dadleuol
"Mae'r cais ar gyfer gwaith archwilio ac nid yw'n cynnwys unrhyw symbyliad yn y ddaear, neu ffracio ...," meddai adroddiad i bwyllgor rheoli datblygiad Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd y cyngor y byddai ceisiadau ffracio'n golygu cymeradwyo.
Pryder
Mae ffracio wedi yn bwnc llosg ym Mhrydain.
Hon yw'r broses o bwmpio dŵr a chemegau i'r ddaear ar bwysedd uchel er mwyn rhyddhau nwy naturiol.
Yr wythnos ddiwethaf roedd protestwyr y tu allan i'r Cynulliad yng Nghaerdydd am fod ymgyrchwyr yn poeni bod y broses yn effeithio ar safon dŵr a'r amgylchedd.
Mae Wayne Edy yn rhedeg fferm geirw ger un o'r safleoedd sy'n cael ei ystyried ar gyfer drilio arbrofol.
"Y prif bryder yw y bydd hyn yn arwain at ffracio yn y diwedd," meddai cyfarfodydd y cynghorau.
"Mae'r DU yn llawer llai na'r Unol Daleithiau lle dechreuodd ffracio.
"Mae'n bwysig peidio â thanbrisio'r effeithiau negyddol ffracio."
Dyfeisiadau
Un cwmni Cymreig fydd yn rhan o'r gwaith yw'r cwmni peirianyddol o Gwmbrân, Cintec.
Mae'r cwmni wedi dweud y gallai eu dyfeisiadau wneud drilio am olew a nwy mewn creigiau dan y ddaear yn fwy diogel.
Dwy elfen sydd i'r dyfeisiadau newydd. Mae'r cyntaf yn ymwneud gyda strwythur o fewn twll drilio nwy hyd at ddau gan metr o dan ddaear.
Mae'r ail yn system o greu tanciau plastig wedi eu pwmpio ag aer, ar gyfer dal dŵr gwastraff sy'n cael ei ddefnyddio yn y broses o ffracio am nwy.
Mae cyfarwyddwr Coastal Oil & Gas yn dweud bod chwilio am nwy yn y ffordd yma yn ateb sawl problem.
"Mae'r dull yn rhoi ateb diogel a chynaliadwy i hybu'r economi, creu swyddi ac arwain y ffordd at gael digonedd o adnoddau yn y DU," meddai Gerwyn Williams.
"Beth sydd ei hangen yw gwell dealltwriaeth o'r diwydiant a'r broses, i dawelu pryderon cymunedau a mwynhau buddion y dull.
"Os nad ydyn ni'n edrych ar ddatrysiadau gwahanol bydd y cyflenwadau tanwydd yn darfod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2013
- Cyhoeddwyd10 Mai 2013
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2012