Dinistrio coed heintus
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o aceri o goedwigaeth yn gorfod cael eu dinistrio am fod y coed wedi eu heintio gydag afiechyd, yn ôl Coed Cadw.
Yng nghoedwig hynaf Cymru sydd ger Casnewydd mae achos o glefyd phytophthora ramorum wedi ei ddarganfod ar goed llarwydden sydd yn achosi niwed mawr iddynt ac yn gallu golygu eu bod yn marw.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Choed Cadw, sydd yn berchen ar y mwyafrif o'r tir, yn dechrau ar y gwaith o glirio 500 acer o goed yr wythnos yma.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae yna waith wedi ei wneud i adfer Coedwigaeth Gwent a chael gwared o'r conwydd oedd wedi eu plannu yno yn y 40au a'r 50au.
Cafodd y conwydd eu rhoi yno er mwyn darparu pren i adeiladau ond mi wnaeth hyn achosi problemau i'r pridd a rhywogaethau gwahanol.
Y gost
Dywed Coed Cadw y byddant yn plannu coed megis coed derw a cheirios ar y tir ond y bydd hyn yn costio £35,000 iddynt. Mae'r mudiad yn dweud mai nhw fydd yn gorfod talu'r swm yma am nad oes yna grantiau yn cael eu rhoi i ail blannu coed yng Nghymru er bod modd cael cymorth ariannol yn Lloegr.
Yn ôl Andrew Sharkey, o Coed Cadw maent wedi gorfod cymryd camau difrifol i ddelio gyda'r sefyllfa er mwyn taclo'r afiechyd:
"Creu coedwigoedd all wrthsefyll pethau a mathau amrywiol o goed o oedrannau gwahanol yw'r ffordd naturiol gorau o geisio sicrhau nad yw afiechydon yn dinistrio ein cefn gwlad."
Dywed John Browne o Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi buddsoddi £500,000 i atal yr afiechyd rhag lledaenu a bod £2 miliwn yn ychwanegol wedi ei neilltuo er mwyn gwneud gwaith pellach yn y dyfodol.
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd coedwigoedd Cymru yn dod i arfer fwy gydag afiechydon a chlefydau yn y dyfodol fel na fydd angen dinistrio'r coed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2013
- Cyhoeddwyd15 Medi 2013
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2013