Damwain M4: rhyddhau ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 32 oed gafodd ei arestio wedi gwrthdrawiad ar Gyffordd 25 yr M4 ar Hydref 2 wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng lori a Vauxhall Corsa ychydig wedi 11.00yh nos Fercher.

Y ddynes 77 oed fu farw yn yr ysbyty oedd Jill Fluckiger o Barnstaple.

Cafodd dyn o Fargoed ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad.

Gan fod y lori yn cael ei defnyddio i bwrpas gwaith cafodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu hysbysu.

Mae ymchwiliadau yn parhau a dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 a rhoi'r rhif log 543 2/10/13.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol