Ras feicio yn dychwelyd i Gymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y bencampwriaeth ei chynnal yn Sir Fynwy yn 2009

Cymru fydd yn cynnal Pencampwriaeth Seiclo Ffordd Prydain yn 2014.

Bydd y bencampwriaeth n ardal Y Fenni rhwng Mehefin 26 a 29 ac yn cynnwys prawf amser a rasys ffordd.

Enillydd y ras eleni yn Glasgow oedd Mark Cavendish, gyda Lizzie Armistead yn cipio ras y merched.

2009 oedd y tro diwethaf i'r Fenni gynnal Pencampwriaeth Prydain.

'35,000'

Dywedodd Jonny Clay, cyfarwyddwr Cycle Sport: "Yn dilyn llwyddiant Glasgow eleni lle y gwelsom 35,000 ar y strydoedd yn gwylio'r cystadlu, roedd diddordeb mawr gan nifer o drefi i gynnal y bencampwriaeth y flwyddyn nesaf.

"Hwn fydd yr ail dro mewn pum mlynedd i'r bencampwriaeth fod yng Nghymru.

"Bryd hynny fe welsom ras lle oedd Chris Froome, Sir Bradley Wiggins a Mark Cavendish ymhlith y cystadleuwyr ac fe ddylai digwyddiad 2014 fod yn rhagflas gwych i ddechrau'r Tour de France yn y DU."