Campws dysgu newydd: Gallai fod yn "well na dim byd arall"
- Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr coleg addysg uwch yn dweud y gallai campws dysgu newydd fod yn well na dim byd arall sydd yn bodoli ar hyn o bryd ym Mhrydain.
Byddai'r campws yn Aberhonddu yn disodli'r ysgol uwchradd presennol sydd yno, coleg addysg uwch a chanolfan hamdden.
Mae Coleg Castell Nedd Port Talbot a chyngor Powys yn gofyn am £75m gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r cynllun.
Mae'r llywodraeth wedi gofyn iddynt amlinellu yr hyn maen nhw eisiau ei wireddu cyn iddyn nhw benderfynu os ydyn nhw am fuddsoddi neu beidio.
£400,000
Dywedodd prif weithredwr Coleg Castell Nedd Port Talbot Mark Dacey: "Rydyn ni yn gosod y seiliau ar gyfer y cyfle i adeiladu canolfan dysgu fyddai yn well na dim byd arall sydd yn bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru nac ym Mhrydain."
Ym mis Ebrill fe gytunodd y cyngor i wario £400,000 i ddatblygu'r prosiect ac i wneud y gwaith dylunio cychwynnol.
Yn ôl y Cynghorydd Cabinet ar gyfer addysgu Myfanwy Alexander bydd trigolion yn y gymuned yn rhan o'r sgwrs:
"Er ein bod ni wedi datblygu cynigion cychwynnol fyddai yn golygu y byddai'r campws yn un gydag ysgol uwchradd i blant rhwng 11-16, coleg chweched dosbarth, coleg galwedigaethol, canolfan hamdden ac ystod o wasanaethau gan y cyngor a'r trydydd sector, mi fyddwn ni yn trafod gyda'r gymuned ynglŷn â sut y bydd modd i'r prosiect cyffrous yma gael ei ddelifrio."
Maent yn bwriadu ymgynghori gyda chyrff gwahanol yn nes ymlaen yn y mis a bydd digwyddiad yn cael ei gynnal mis Tachwedd pan fydd cyfle i'r cyhoedd ddweud eu dweud am y prosiect.
Dywed Cyngor Powys y gallai'r gwaith i adeiladu'r campws ddechrau mor gynnar â mis Ebrill 2015.
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2013
- 26 Medi 2012