Noson dda i'r Dreigiau

Paddy Jackson kicks a penalty for Ulster Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tarodd Ulster yn ol ac ennill y gem

Gweilch 12- Ulster 18

Ulster oedd yn dathlu nos Wener wrth i'r ymwelwyr ennill yn erbyn y Gweilch.

Roeddent ar y blaen o 12 pwynt wedi 44 munud ond doedd y Gwyddelod ddim mewn panic ac mi lwyddodd Paddy Jackson i gicio chwe chic gosb.

Roedd y dyn o Ganada Tyler Ardron yn gwisgo crys y Gweilch am y tro cynta' yn y Pro12 ac yn ymuno â Justin Tipuric a Joe Bearman yn y rheng ôl.

Noson fawr oedd hi i'r capten Alun Wyn Jones, yn chwarae i'w dîm am y 150fed tro.

Trechodd Ulster y Gweilch yn y Liberty llynedd ond cyn gornest nos Wener roedd y Cymry wedi ennill 10 o'u gemau gartre' y tymor hwn.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Hallam Amos ddwy gais

Dreigiau 30-7 Zebre

Y Dreigiau oedd yn fuddugol nos Wener yn erbyn Zebre sydd yn golygu ei bod yn bumed yn y tabl yn y Pro 12.

Daeth dwy gais gan y bachgen ifanc 18 oed Hallam Amos ac un gan Lewis Evans. Daeth gweddill y pwyntiau o droed Jason Tovey.

Roedd wythwr y Llewod Toby Faletau yn chwarae unwaith eto i'r Dreigiau ac fe gafodd gêm dda.

Ymunodd â Netani Talei a Lewis Evans yn y rheng ôl.

Dyw'r Dreigiau ddim wedi colli yn Rodney Parade y tymor hwn.