Bangor 3 - 2 Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Les Davies
Disgrifiad o’r llun,
Les Davies oedd yr arwr unwaith eto i Fangor

Daeth Bangor yn ôl o gôl i lawr i guro Aberystwyth yn Nantporth i sicrhau eu buddogoliaeth gartref gyntaf o'r tymor.

Rhoddodd Lee Idzi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 13 munud a bu bron i Geoff Kellaway ddyblu eu mantais yn fuan wedyn.

Ond Bangor gafodd ail gôl y gem wrth i'r hen ffefryn Les Davies sgorio wedi iddo ddefnyddio ei bwer i guro amddiffyn Aber.

Cyfartal oedd hi ar ar egwyl. Llwyddodd Bangor i roi eu hunain ar y blaen ugain munud fewn i'r ail hanner - croesiad cyfrwys Sion Edwards yn cael ei gyffwrdd gan Davies cyn i Jamie Petrie ddarganfod cefn y rhwyd.

Roedd hi'n 3-1 yn fuan wedyn. Fe sgoriodd Aber eto rhyw bum munud o ddiwedd y gem ond doedd hynny ddim yn ddigon.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Bangor i'r saithfed safle yn y gynghrair.