Heddlu arfog yn cau strydoedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad fore dydd Sadwrn
Cafodd heddlu arfog eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Monthermer yn Cathays, Caerdydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod nifer o strydoedd yn yr ardal wedi cael eu cau wrth iddynt geisio delio gyda'r sefyllfa.
Allai'r Arolygydd Chris Truscott ddim cadarnhau os oedd dryll neu arfau eraill yn y cyfeiriad.
Doedd yr heddlu chwaith ddim yn gallu datgelu faint o bobl oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu bod swyddogion arfog wedi cael eu gyrru yno ar gyfer "diogelwch y cyhoedd a'r plismyn".
Mae ymchwiliad i'r mater yn parhau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol