Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru

Mae Airbus yn parhau i arwain y gynghrair wedi gêm gyfartal yn erbyn y Seintiau Newydd, ond yn Nghaerfyrddin oedd y cynnwrf mwyaf.

Caerfyrddin 3 - 3 Gap Cei Cona

Roedd hi'n chwip o gêm ym Mharc Richmond wrth i Gaerfyrddin lwyddo i gipio pwynt wedi iddynt fynd dair gôl i lawr. Cafodd Carl Evans ei yrru oddi ar y cae wedi hanner awr ac roedd y canlyniad yn edrych yn anochel wrth i'r dyfarnwr chwythu ei chwiban am hanner amser gyda Chei Cona dair i ddim ar y brig. Goliau gan Daniel Forde a dwy gan Gary O'Toole (un yn gic o'r smotyn).

Ond daeth yr Hen Aur yn ôl, diolch yn rhannol i'r ffaith bod nifer eu gwrthwynebwyr wedi cael ei dorri lawr i 10 dyn hefyd. Sgoriodd Paul Fowler a Liam Thomas i'w gwneud hi'n 2 -3. Y munudau olaf ac roedd pethau'n edrych yn anobeithiol iddyn nhw, yn enwedig ar ôl i Cortez Belle gael ei yrru oddi ar y cae. Ond fe lwyddodd naw dyn Caerfyrddin i ddarganfod rhywbeth o rywle ac fe sgoriodd Christian Doidge yn yr eiliadau olaf i'w gwneud hi'n 3-3.

Y Bala 0 - 0 Lido Afan

Y Drenewydd (Craig Williams, 31; Matthew Hearsey, 45) 2 - 1 Prestatyn (Lee Hunt, 28)

Port Talbot (Martin Rose, 78)1 - 0 Rhyl

Airbus (Chris Budrys, 50)1 - 1 Y Seintiau Newydd (James Coates - gôl i'w rwyd ei hun, 22)

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.