Bury 0 - 0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd rheolwr Casnewydd Justin Edinburgh ddathlu ei gytundeb newydd gyda phwynt oddi cartref yn Gigg Lane.
Doedd dim llawer o gyfleoedd yn ystod y gêm ond dylai Bury fod wedi sgorio yn yr hanner cyntaf pan gafodd Marco Navas gyfle euraidd i sgorio.
Roedd Casnewydd fwy cyfforddus yn yr ail hanner ac fe lwyddon nhw i gadw pethau'n ddistaw.
Mae'r canlyniad yn eu gadael nhw'n nawfed yn y gynghrair.