Pro 12: Sgarlets 12 - Glasgow 17
- Cyhoeddwyd

Collodd y Sgarlets yn erbyn Glasgow ym Mharc y Sgarlets nos Sadwrn, er gwaetha'r ffaith bod yr Albanwyr wedi cael dau gerdyn melyn yn ystod yr ail hanner.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Glasgow yn parhau i fod yr unig dîm sydd heb gael eu curo yng nghystadleuaeth y Pro 12.
Fe weithiodd Glasgow yn galed am y fuddugoliaeth - ond roedd cais yr un i Ryan Grant a Tim Swinson yn yr hanner cyntaf a chicio cywir Duncan Weir yn ddigon iddyn nhw ennill y gêm yn y diwedd.
Lwyddodd Rhys Priestland i drosi dair gwaith a Jordan Williams unwaith ond doedd y cochion ddim yn edrych fel eu bod yn debygol o sgorio cais.
Daeth cyfle gorau'r Sgarlets yn fuan yn yr ail hanner, ond fe wnaeth penderfyniad rhyfedd Jordan Williams i basio i'w gyd Williams, Liam, olygu bod y cyfle wedi ei wastraffu.
Byddent yn teimlo y dylen nhw fod wedi gwneud mwy yn ystod yr amser pan roedd Glasgow lawr i 14 dyn ond ni lwyddon nhw i dorri drwy'r amddiffyn.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Sgarlets yn seithfed wedi pum gêm .